Cylch Cadwgan

Cylch
Cadwgan

Cylch Cadwgan

Cymdeithas lenyddol yn ardaloedd Llantrisant, Ton-teg, Efailisaf, Creigiau, Pentyrch a Gwaelod y Garth yw Cylch Cadwgan. Mae’n cwrdd fel rheol bum gwaith y flwyddyn, rhwng mis Medi a mis Mai. Mae un o’r pum partner yn gyfrifol am drefnu un o’r nosweithiau, drwy wahodd siaradwr neu siaradwyr i siarad am eu gwaith. Mae croeso cynnes i bawb.

Pam Cadwgan?

Yn y 12eg a 13eg ganrif bu ymladd rhwng y Normaniaid a’r brodorion lleol am yr ardal rhwng y Taf a’r Elái am ymron i 150 mlynedd. Ac er i Richard de Clare lwyddo yn 1245 i ddal ei afael ar gastell Llantrisant fe gododd Cadwgan Fawr neu Cadwgan Lly hog y Fwyell i arwain y werin bobl.

Roedd Cadwgan yn un o deulu Penllwyn Cynfyn a ddaeth yn wreiddiol o Sir Frycheiniog. Cawsant yr hawl i’r tir a elwir Penllwyn Cynfyn rhwng Creigiau a Phentyrch gan Arglwyddi Cymreig Meisgyn.

Yn ôl hanes y cyfnod fe frwydrodd Cadwgan Fawr i amddiffyn hen draddodiadau a hawliau’r werin bobl. Ei fwyell finiog oedd ei hoff arf a fu’n fodd i sicrhau fod yr iaith Gymraeg a’i thraddodiadau yn parhau yn fyw yn yr ardal hon.

Am i’r un dros Gymru well – roi ei gorff
I’r gad yn ddigymell
Yn y byd ac yntau’n bell
Nawr fi sy’n hogi’r fwyell.

Trefnwyd gan –

Cangen y Garth, Merched y Wawr

Capel Tabernacl, Efail Isaf

Clwb y Dwrlyn

Cymdeithas Gymraeg Llantrisant

Capel Bethlehem, Gwaelod y Garth

Cydnabyddir cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru

2001-02

Y Taeogion, John Ogwen a Maureen Rhys, Angharad Tomos, Sioned Davies.

2002-03

Mererid Hopwood, Lyn Ebenezer, Grahame Davies, Branwen Jarvis.

2003-04

Bethan Gwanas, Angharad Price, Gwyn Griffiths, Allan James.

2004-05

Elfyn Pritchard, Twm Morys, Manon Rhys, Owen Martell.

2005-2006

Dr Dylan Foster Evans, Jerry Hunter, Emyr Lewis, Nesta Wyn Jones

2006-2007

Yr Athro Geraint Jenkins, Mari Emlyn, Damian Walford Davies, Y Prifardd Tudur Dylan, Dr. John Davies

2007-2008

Cennard Davies, Dr Christine James, Catrin Dafydd, Aled a Jim Jones.

2008-2009

Parch Huw Jones ac Arfon Gwilym, Dr Richard Wyn Jones, Gareth Miles, Menna Elfyn a Fflur Dafydd

2009 – 2010

Caryl Lewis, Yr Athro Prys Morgan, Y Prifardd Ceri Wyn Jones,
Y Prifardd Cen Williams

2010 – 2011

Y Prifardd John Gwilym Jones, Lowri Roberts, Cefin Roberts, Yr Athro M. Wynn Thomas

2011 – 2012

Hywel Gwynfryn, Idris Reynolds, Dr Catrin Stephens, Aneirin Karadog

2012 – 2013

Sharon Morgan, Ned Thomas, Gareth Miles, Aled Gwyn

2013 – 2014

Geraint Jones, Euryn Ogwen Williams, Gwynn Mathews, Myrddin ap Dafydd

 2014 – 2015

Yr Athro Gareth Ffowc Roberts, Catrin Dafydd, Lynn Davies, Llŷr Gwyn Lewis, Heini Gruffudd

2015 – 2016

Gareth F Williams, Walter Brooks, Yr Athro E Wyn James, Y Prifardd Geraint

2016 -2017

Karen Owen, Gruffudd Owen, Dr Wynne Davies, Y Prifardd Cyril Jones, Meg Elis

2017 -2018

Gwynfor Dafydd, Vaughan Roderick, Dr Hywel Griffiths, Aled Islwyn, Elinor Wyn Reynolds

2018 -2019

Emyr Davies, Yr Athro Dylan Foster Evans, Dr Rowland Wynne, Ffion Dafis, Ioan Kidd

2019  – 2020

Frank Olding, Yr Athro Geraint Jenkins

Bro Taf Elái

Bro Taf Elái

Geraint Evans, Stuart Burrows, Tom Jones, Evan James a James James, Dr William Price a Neil Jenkins – dim ond rhai o enwogion Taf Elái sydd wedi gwneud eu marc ar fywyd y genedl.

Ardal i’r gogledd o Gaerdydd yw Taf Elái yn ymestyn o Bontypridd i Lanharan ac o Donyrefail i Bentyrch.

Daw enw’r ardal o’r ddwy afon, y Taf a’r Elái sy’n tarddu yng nghymoedd Morgannwg ac yn ymuno wrth gyrraedd y môr ym Mae Caerdydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal nawr yn Sir Rhondda Cynon Taf ac ardal Pentyrch yn Sir Caerdydd.

Mae’r olion cynharaf o fywyd diwylliedig yn yr ardal yn ymestyn yn ôl i’r oesoedd cyn Crist. Ger pentref Creigiau mae Cromlech sy’n dyddio o Oes y Cerrig a gerllaw yn Rhiwsaeson ger Llantrisant mae Caerau enfawr ar ben y bryn sy’n dyst i’r ymladd a fu’n yn yr ardal.

Mae dolmenni o’r Oes Efydd, 2000 Cyn Crist, ar ben Mynydd y Garth – mynydd a ddaeth yn fwy enwog yn ddiweddar yn un o ffilmiau Hugh Grant am Sais a aeth i fyny’r bryn a dod i lawr y mynydd. Ceir golygfeydd godidog o ben Mynydd y Garth yn ymestyn o Fôr Hafren i Fannau Brycheiniog.

Daeth y Rhufeiniaid yma i gloddio am haearn ger Pentyrch ac mae’n sicr eu bod wedi adeiladu treflan ar y mynydd gerllaw. Saif yr unig gastell o bwys ar fryn Llantrisant. Cafodd ei adeiladu yn y 13eg ganrif a bu’n dyst i hanes y ‘Tywysog Du’ a gorthrwm y Normaniaid ar fywyd yr ardal. Mae’n adfeilion erbyn hyn.

Un o’r rhai fu’n brwydro i gadw’n traddodiadau a’n hiaith yng nghyfnod y 13 – 14 ganrif oedd Cadwgan Fawr a ddefnyddiodd fwyell enfawr fel ei brif arf yn erbyn y gelyn.

Cysegrwyd Eglwys Llantrisant i’r tri sant sef Illtyd, Gwynno a Dyfodwg ac mae’n dyddio yn ôl i’r 11eg ganrif.

Roedd yr ardal yn parhau yn un amaethyddol pan adeiladodd William Edwards ei bont enwog ar draws yr afon Taf ym Mhontypridd ym 1756. Cafodd y bont ei chwblhau ar y drydedd ymgais gan adeiladu’r bont fwa hiraf o’i math yn Ewrop yr adeg honno.

Ond daeth newid byd yn y 18ed ganrif gydag agor y gweithfeydd haearn ym Merthyr ac adeiladu’r gamlas i lawr y cwm i’r porthladd yng Nghaerdydd ym 1794. Yn ei sgil daeth gweithfeydd newydd yn cynnwys gwaith cadwyni haearn ym Mhontypridd a’r Crochendy yn Nantgarw a fu’n enwog am gynhyrchu llestri hardd.

Mae glo yn dod i’r brig ar ffin ddeheuol Taf Elái a bu’n cael ei gloddio am ganrifoedd ar raddfa fechan. Ond yn y 19ed ganrif suddwyd pyllau glo ym mhob cwr o’r ardal i ddiwallu anghenion diwydiant.

Adeiladwyd rheilffyrdd i lawr y cymoedd i gario’r glo i’r porthladdoedd yng Nghaerdydd a’r Barri. Denwyd miloedd o bobol i weithio yn y diwydiannau newydd a datblygodd trefi Pontypridd a Thonyrefail. Daeth Gilfach Goch yn enwog yn y llyfr a’r ffilm How Green was my Valley.

Yn y cyfnod ar ddiwedd yr ail ryfel byd ym 1947 roedd dros 6000 yn gweithio yn y pyllau glo ond erbyn 1989 roedd y pyllau i gyd wedi cau. Mae cyfle i fynd yn ôl i’r oes pan fu glo yn teyrnasu ym Mharc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod.

Agorwyd yr ystâd ddiwydiannol gyntaf yng Nghymru yn Nhrefforest yn y 1950au a daeth diwydiannau newydd i gymryd lle’r diwydiant glo.

Mae agosrwydd yr M4 yn gwneud yr ardal yn atyniadol i ddiwydiannau o bob cwr o’r byd a does dim diwedd ar ddatblygiadau tai newydd a mewnfudo i’r ardal.

Daw hanes Pontypridd a’r ardal yn fyw i ni heddiw yn Amgueddfa Pontypridd ger yr hen bont.

Cafodd y newidiadau diwydiannol effaith sylweddol ar fywyd diwylliannol yr ardal. Yn sgil y mewnlifiad o gefn gwlad Cymru daeth ffyniant diwylliannol ac erbyn canol y 19ed ganrif roedd Pontypridd a ‘Chlic y Bont’ yn ganolfan beirdd a llenorion o gylch eang.

Roedden nhw’n cwrdd yn y Malsters Arms ac yn cynnal defodau’r orsedd o dan ddylanwad Iolo Morgannwg o gwmpas y Garreg Siglo ar y Comin.

Y tad a’r mab Evan James a James James roddodd i ni ein Hanthem Genedlaethol. Yn Eglwysilan y ganwyd Evan James ond roedd yn byw ym Mhontypridd ac yn berchen melin wlân yn Mill Street pan gyfansoddodd ef a’i fab yr anthem ym mis Ionawr 1856.

Un o’r rhai fu’n rhan o ddefodau’r derwyddon ar y Comin oedd Dr William Price. Adeiladodd Dai Crwn ger y Comin a bu’n adnabyddus yn yr ardal gyda’i wisgoedd lliwgar, gwallt hir a het o groen llwynog.

Daeth i enwogrwydd am fod y cyntaf i amlosgi wedi iddo losgi corff ei fab pum mis oed yn Llantrisant ym 1884. Wedi hyn cyfreithlonwyd corfflosgi. Saif cerflun pres ohono ar sgwâr Llantrisant.

Mae cerddoriaeth wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ardal. Mae canu gyda’r Fari Lwyd o gwmpas y flwyddyn newydd ymhlith traddodiadau hynaf yr ardal ac mae’r ddefod yn parhau i gael ei chynnal yng nghylch Llantrisant a Phentyrch.

Datblygodd canu corawl yn sgil twf Anghydffurfiaeth yn y 19ed ganrif ac roedd cymdeithasau corawl yng Nghilfynydd, Llantrisant, Pontypridd, Trefforest a Thonyrefail ac mae’r traddodiad yn parhau hyd heddiw a’r ardal wedi esgor ar sawl côr adnabyddus megis Côr Godre’r Garth, Côr Merched y Garth, Cantorion Creigiau a Chantorion Richard Williams.

Daeth llu o unawdwyr o’r ardal, yn eu plith mae Geraint Evans a Stuart Burrows o Gilfynydd, ac ym maes canu poblogaidd mae’r enwog Tom Jones o Drefforest.

Roedd Morfydd Llwyn Owen o Drefforest yn un o gyfansoddwyr disgleiriaf Cymru a Gweddi Pechadur ymhlith ei chaneuon enwocaf. Bu farw yn 27 mlwydd oed ym 1918.

Yr emyn-dôn enwocaf i gael ei chyfansoddi yn yr ardal yw Cwm Rhondda o waith John Hughes ym 1907, arweinydd y gân yng Nghapel Salem, Tonteg.

Yn y 19ed ganrif roedd yr ardal yn fwrlwm o ddawnsio, a’r hen grefft o stepio yn fyw yn y pentrefi o gwmpas Nantgarw. Ond o dan ddylanwad Diwygiad 1859 daeth diwedd ar ddawnsio a chanu’r delyn nes i Ddawnswyr Nantgarw yn y 1980au atgyfodi’r traddodiad o stepio yn yr ardal.

Ond mae hanes diweddar Taf Elái o bwys mawr i ddyfodol yr ardal. Yn y 1950au y cychwynnodd yr ymgyrch i agor ysgolion cynradd Cymraeg ac agorwyd y gyntaf yn yr ardal ym Mhont Siôn Norton, Pontypridd ym 1951.

Agorwyd yr Ysgol Gyfun Gymraeg gyntaf yn yr ardal yn Rhydfelen ym 1962. Erbyn diwedd yr 20ed ganrif roedd dros 25% o blant yr ardal yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal ym 1973 ac 1991 a sefydlwyd Menter Taf Elái yn 1992 i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae Parti Ponty yn ddigwyddiad blynyddol sy’n denu miloedd i Bontypridd i ddathlu twf yr iaith Gymraeg. Agorwyd Clwb y Bont yn ganolfan i Gymry’r ardal ym 1985. Mae Prifysgol Morgannwg yn Nhrefforest yn rhoi cyfle newydd i bobol o bob oed i ddysgu’r Gymraeg.

Crochendy Nantgarw

Nantgarw

Lle tawel oedd Nantgarw yn niwedd y ddeunawfed ganrif, ond yn 1794 agorwyd Camlas Morgannwg o Ferthyr Tudful i Gaerdydd a datblygodd y pentref i raddau helaeth oherwydd y gamlas. Mae olion y gamlas i’w weld ger safle crochendy enwog Nantgarw yng nghysgod ffordd yr A470.

Cysylltir enw Thomas Billingsley yn bennaf â gwaith porslen Nantgarw ond cafodd gymorth gan ei fab-yng-nghyfraith, Samuel Walker, a gŵr busnes o’r enw William Weston Young. Ganwyd Billingsley yn Derby yn 1758 a chafodd ei hyfforddi i baentio porslen yng ngwaith Derby, lle bu’n gweithio rhwng 1788 a 1796. Ond uchelgais Billingsley oedd cynhyrchu porslen o’r un ansawdd a, os nad gwell na phorslen Se’vres wrth arbrofi. Teithiodd yn eang a chredir iddo ymweld â Nantgarw ar daith yn 1807.

Yn 1813, penderfynodd ymsefydlu yn Nantgarw gyda’i deulu, ac adeiladwyd yr odynnau yn ystod gaeaf 1813-14 ynghyd ag adeiladau angenrheidiol i’r broses o gynhyrchu porslen. Roedd rhaid arbrofi cyn y gellid dechrau cynhyrchu’r porslen.

Roedd Nantgarw yn le delfrydol i sefydlu crochendy oherwydd ei lleoliad ar lannau Camlas Morgannwg. Roedd clai yn gallu cael ei gludo yn hawdd i’r gweithfeydd, tra gellid cludo’r porslen drudfawr i Gaerdydd yn fwy diogel ar y gamlas nag ar gefn ceffyl. Gellid malu’r clai mewn melin gyfagos ac roedd cyflenwad digonol o lo ar gael i danio’r ffwrneisi.

Crochendy Nantgarw

 

Ond er gwaetha’r amodau ffafriol hyn, methiant fu’r fenter oherwydd prinder arian, a rhaid oedd cael cymorth Thomas Pardoe, arlunydd porslen o fri. Cafodd e ei eni yn Derby hefyd, ac roedd wedi cael profiad yn paentio porslen yng ngwaith Caerwrangon ac yng Nghrochendy Cambrian yn Abertawe, cyn mentro ar ei ben ei hun fel peintiwr porslen ym Mryste yn 1809. Roedd Pardoe and Billingsley yn gyfeillion o’u dyddiau gyda’i gilydd yn Derby. Yn y cyfamser symudodd Billingsley i Abertawe lle sefydlodd Gwaith Tsiena Abertawe. Ond yn sgil trafferthion daeth yn ôl i Nantgarw ac yn 1817 fel ail agorwyd crochendy Nantgarw.

Y tro hwn llwyddodd William Weston Young i gael arian oddi wrth rhai o feistri haearn Merthyr, megis William Crawshay a J.J.Guest, a hefyd oddi wrth wŷr bonheddig, yn eu plith yr Ardalydd Bute. Yn ôl William Weston Young roedd porslen Nantgarw cystal â os nad gwell na unrhyw borslen arall yn y byd. Ond yn 1820 symudodd Billingsley a Walker i Coalport i weithio i Rose. Ond siom oedd yn eu disgwyl eto oherwydd nid oedd porslen Billingsley yn hawdd i’w gynhyrchu’n economaidd. Bu farw Billingsley yn Coalport yn 1828, ac ymfudodd Walker i’r Unol Daleithiau.

Gadawodd Billingsley llawer o’i gynnyrch yn Nantgarw, ac mewn ymgais i adennill cyfran o’r arian a fuddsoddwyd yng ngwaith Nantgarw, trefnodd William Weston Young arwerthiant ar 8fed Tachwedd 1820. Ymhlith yr eitemau ar werth roedd nifer o ddarnau porslen Nantgarw wedi eu haddurno yn goeth ag aur. Nid oes sicrwydd mai gwaith arlunio Billingsley oedd ar y darnau hyn. Prynodd Young ei hun gyflenwad o borslen gwyn ac yn 1821 gwahoddodd Thomas Pardoe i Nantgarw i addurno’r porslen gwyn er mwyn ei werthu’n lleol.

Cwpan cynhyrchwyd yn 1820

 

Roedd Billingsley wedi mynd â chyfrinach y sglein gwydredd terfynol gydag ef i Coalport – sglein terfynol oedd yn bennaf gyfrifol am arbenigrwydd porslen Nantgarw. Felly roedd rhaid i Young ddyfesio reset ei hun, ond nid oedd mor llwyddiannus â’r un gwreiddiol. Ni chynhyrchodd Young gyflenwad newydd o borslen yn Nantgarw. Ei fwriad oedd cwblhau addurno’r stoc o lestri gwyn, a’u gwerthu’n lleol. Ar Fai 9fed 1821 cynhaliwyd arwerthiant yn y Bontfaen, ac yno fe werthwyd cannoedd o ddarnau o borslen cain. Ond unwaith eto methodd Young â chadw’r crochendy yn Nantgarw i fynd, ac ar Hydref 28, 1822 gwerthwyd gweddill y porslen wedi ei baentio, y porslen gwyn, ac yn ôl rhai, y mowldiau. Credir i Pardoe aros yn Nantgarw ac mae’n debyg mai ef baentiodd y stoc a werthwyd. Bu farw yn 1823, ac fe’i claddwyd yn Eglwysilan.

Agorwyd Crochendy Nantgarw unwaith eto gan fab Thomas Pardoe, William Henry, i gynhyrchu crochenwaith yn hytrach na phorslen. Gwnaeth ef grochenwaith “Rockingham” – crochenwaith o liw brown cyfoethog – a chynhyrchodd nwyddau megis tebotau, poteli llestri a theils ar gyfer y llawr a llefydd tân. Cynhyrchodd hefyd bibau clai ar gyfer ysmygu tybaco.

Bu farw William Henry yn 1867, a throsglwyddwyd y busnes i’w feibion, a buont yn masnachu o dan yr enw “Y Brodyr Pardoe”. Ond nid oeddent yn medru cystadlu  â’r diwydiant sigarennau, ac felly, caeodd y crochendy ei ddrysau am y tro olaf yn 1921.

Hanes trist braidd sydd i grochendy Nantgarw felly. Er i borslen o’r radd flaenaf gael ei gynhyrchu yno, nid oedd gan y crefftwyr y gallu i wneud y fenter yn un llwyddiannus yn ariannol.

Pentref Nantgarw tua 1900

 

Cyfrifir gwaith Billingsley o ran prydferthwch ffurf a cheinder crefft yn uchel iawn ymhlith casglwr porslen, ac erbyn heddiw, oherwydd eu prinder, mae llestri Nantgarw yn gwerthu am bris uchel iawn mewn arwerthiannau.

Dros y blynyddoedd aeth y gwaith lle cynhyrchwyd porslen hardd Nantgarw yn adfeilion ond oherwydd brwdfrydedd pobl leol prynwyd y safle gan Gyngor Bwrdeistref Taf Elái yn 1989. Ers hynny buddsoddwyd yn helaeth i adfer y gwaith ac erbyn hyn mae arddangosfeydd, artistiaid gwadd a gwersi celf yn cael eu cynnal yno ac mae’n atyniad i dwristiaid i’r ardal.

C.W.

Gwefan Crochendy Nantgarw > https://nantgarwchinaworksmuseum.co.uk/

^